Cofnodion cryno - Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel

a fideogynadledda drwy Zoom

Dyddiad: Dydd Mercher, 26 Mehefin 2024

Amser: 09.31 - 11.28
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
13930


Hybrid

------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau o’r Senedd:

Hefin David AS

Luke Fletcher AS

Vikki Howells AS

Samuel Kurtz AS

Jenny Rathbone AS

Tystion:

Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg

Aine Gawthorpe, Llywodraeth Cymru

Helen John, Llywodraeth Cymru

Neil Surman, Llywodraeth Cymru

Ed Sherriff, Llywodraeth Cymru

Staff y Pwyllgor:

 Rob Donovan, Clerc

Lara Date, Ail Glerc

Evan Jones, Dirprwy Glerc

Lucy Morgan, Ymchwilydd

Sara Moran, Ymchwilydd

Gareth Thomas, Ymchwilydd

 

<AI1>

1       Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

1.1        O dan Reol Sefydlog 17.22, etholwyd Sam Kurtz AS yn Gadeirydd dros dro.

1.2        Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

1.3        Cafwyd ymddiheuriadau gan Paul Davies AS.

1.4        Datganodd Jenny Rathbone MS fod ganddi gyfranddaliadau yn Siemens ac Awl Aman Tawe, a bod ei phartner yn gynghorydd i Bute Energy.

</AI1>

<AI2>

2       Papurau i'w nodi

2.1        Nododd y Pwyllgor y papurau.

 

 

</AI2>

<AI3>

2.1   Ymchwiliad i Fanc Datblygu Cymru

</AI3>

<AI4>

2.2   TB Buchol

</AI4>

<AI5>

2.3   Sesiwn gyffredinol i graffu ar waith y Gweinidog – 13 Mehefin 2024: Gwaith dilynol

</AI5>

<AI6>

2.4   Hybu Cig Cymru

</AI6>

<AI7>

2.5   Dyfodol Dur yng Nghymru

</AI7>

<AI8>

3       Craffu cyffredinol ar waith Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg

3.1        Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg.

3.2        Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet i ysgrifennu at y Pwyllgor i roi gwybod am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i amnewid a gwella diogelwch bwyd o amgylch cynhyrchion sylfaenol.

3.3        Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet i ysgrifennu at y Pwyllgor i ddarparu rhagor o wybodaeth am y rhesymau dros ohirio trafodaethau bargen fasnach â Chanada a Mecsico.

3.4        Ymrwymodd Ysgrifennydd y Cabinet i gyhoeddi papur Llywodraeth Cymru ar ei hymagwedd at bolisi masnach a’r amcanion polisi trawsbynciol ar ôl yr etholiad cyffredinol.

3.5        Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru gyda chwestiynau oedd gan yr Aelodau ar Borthladdoedd Rhydd, nad oedd cyfle i’w gofyn yn ystod y sesiwn.

</AI8>

<AI9>

4       Ymchwiliad i’r Economi Werdd: Panel 9 – Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg

4.1        Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg ar yr economi werdd.

 

</AI9>

<AI10>

5       Cynnig o dan Reol Sefydlog Rhif 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

5.1        Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

 

</AI10>

<AI11>

6       Trafod tystiolaeth yn dilyn y cyfarfod

6.1        Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

</AI11>

<AI12>

7       Trafod y flaenraglen waith

7.1        Bu’r Pwyllgor yn trafod ei flaenraglen waith ar gyfer tymor yr hydref 2024, a chytunodd arni.

 

</AI12>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>